Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 11 Mawrth 2026

Amser y cyfarfod: 13.30
 


337 (v2)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

(45 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

(45 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Chofrestru Buddiannau’r Aelodau

(5 munud)

NDM9203 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 3, 4 a 5 mewn perthynas â Chofrestru Buddiannau’r Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf

</AI6>

<AI7>

6       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Datgan Buddiannau’r Aelodau

(5 munud)

NDM9204Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 2, 13, 15 a 17 mewn perthynas â datgan buddiannau’r Aelodau’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf.

</AI7>

<AI8>

7       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd

(5 munud)

NDM9205Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog 11.10 a 12.6(i)’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf

</AI8>

<AI9>

8       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Aelod

(5 munud)

NDM9206Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26: Biliau Aelod’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad 2 adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf

</AI9>

<AI10>

9       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cyhoeddus

(5 munud)

NDM9207 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 26 Deddfau’r Senedd, a newidiadau canlyniadol i Reolau Sefydlog 26A Deddfau Preifat y Senedd, 26B Deddfau Hybrid y Senedd a 26C Deddfau Cydgrynhoi’r Senedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad 2 adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf

</AI10>

<AI11>

10    Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Deisebau’r Cyhoedd

(5 munud)

NDM9208 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio’r Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 23 – Deisebau’r Cyhoedd’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B adroddiad y Pwyllgor Busnes.

3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar ddechrau'r Senedd nesaf

</AI11>

<AI12>

11    Dadl ar adroddiad y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru

(30 munud)

NDM9200 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ‘Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Ionawr 2026.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mawrth 2026.

</AI12>

<AI13>

12    Dadl ar adroddiad y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cronfa Twf Lleol

(30 munud)

NDM9201 Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar y Gronfa Twf Lleol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Chwefror 2026.

</AI13>

<AI14>

13    Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru)

(15 munud)

</AI14>

<AI15>

14    Dadl ar Adroddiad y Bwrdd Adolygiad Seneddol sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd

(60 munud)

NDM9199 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi'r adroddiad ar yr Adolygiad o Senedd sy'n Gynhwysol ac yn Ystyriol o Deuluoedd, Senedd i Bawb, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2026.

</AI15>

<AI16>

15    Dadl y  Ceidwadwyr Cymreig - Polisi Economaidd

(60 munud)

NDM9202 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi Datganiad Gwanwyn Llywodraeth y DU ar 3 Mawrth 2026 a'r rhagolygon economaidd diweddaraf.

2. Yn gresynu, o dan lywodraethau Llafur yn San Steffan a Chaerdydd:

a) bod rhagolygon twf economaidd wedi'u hisraddio;

b) bod disgwyl i ddiweithdra godi a bod Cymru'n parhau i fod â'r gyfradd gyflogaeth isaf yn y DU;

c) bod nifer y bobl yng Nghymru ar gredyd cynhwysol ar ei lefel uchaf erioed;

d) mai'r lefel anweithgarwch economaidd yng Nghymru yw'r uchaf ym Mhrydain Fawr; 

e) mai pecynnau cyflog yng Nghymru yw'r isaf yn y Deyrnas Unedig.

3. Yn credu, ar ôl bron i dri degawd o lywodraeth dan arweiniad Llafur yng Nghymru, bod economi Cymru yn tanberfformio a bod angen dull cryf sy'n ffafrio twf ar bobl sy'n gweithio a busnesau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael Cymru i weithio drwy wneud y canlynol:

a) gwneud toriad o 1 geiniog yn y bunt i gyfradd sylfaenol treth incwm Cymru;

b) diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau bach, tafarndai a swyddfeydd post;

c) dileu'r dreth dwristiaeth arfaethedig;

d) diddymu treth trafodiadau tir wrth brynu prif breswylfa;

e) ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal refferendwm cyn cyflwyno cynnydd o fwy na 5 y cant i'r dreth gyngor.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:   
Gwelliant 1 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu’r £555 milliwn yn ychwanegol mewn cyllid cyfalaf ac adnoddau ar gyfer Cymru dros y tair blynedd nesaf yn natganiad y gwanwyn Llywodraeth y DU.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 ei ddad-ddethol.
 

Gwelliant 2 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu at y canlynol o dan Lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU:

a) bod treth fel cyfran o CMC wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers yr Ail Ryfel Byd;

b) bod safonau byw wedi gostwng yn ystod Senedd 2019-2024, y dirywiad cyntaf o'r fath ar gofnod;

c) bod cyllideb fach Liz Truss, gyda chefnogaeth y grŵp Ceidwadol yn y Senedd, wedi chwalu economi'r DU ac anfon taliadau morgais i berchnogion tai drwy'r to;

d) bod Brexit wedi achosi ergyd economaidd i Gymru sydd hyd yma yn fwy na £4 biliwn, ac mae'n parhau i osod biwrocratiaeth beichus ar fusnesau Cymru; ac

e) na wnaeth addewidion i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe ac ailwampio rheilffordd Gogledd Cymru erioed gael eu gwireddu.

Yn gresynu at y canlynol o dan y llywodraethau Llafur presennol yn San Steffan a Chymru:

a) bydd cyllideb Cymru yn profi ei thwf isaf mewn gwariant o ddydd i ddydd y tu allan i'r blynyddoedd llymder presennol, a chyllideb gyfalaf sy'n crebachu;

b) bod fformiwla Barnett wedi cael ei llywio ar draul Cymru wrth gyfrifo ad-daliadau'r Trysorlys ar gyfer cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn y sector cyhoeddus craidd, gan greu twll du yng nghyllid cyhoeddus Cymru y bu'n rhaid ei ysgwyddo gan awdurdodau lleol; ac

c) bod Cymru ymhlith yr isaf o'r 12 cenedl a rhanbarth y DU ar ystod o fetrigau perfformiad economaidd, gan gynnwys cynhyrchiant, cyflogaeth ac incwm sylfaenol y pen.

Yn credu:

a) bod pobl Cymru wedi cael eu gadael mewn gwaeth sefyllfa yn sgil agendâu polisi llywodraethau olynol yn San Steffan;

b) bod Reform yn bygwth gwaethygu'r niwed hwn drwy gynlluniau gwariant sydd heb eu costio a thoriadau dwfn i wasanaethau cyhoeddus; ac

c) mai dim ond Plaid Cymru sy'n cynnig arweinyddiaeth newydd i ryddhau potensial economaidd Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sefydlu asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer yr 21ain ganrif i ryddhau potensial economi Cymru;

b) gweithredu rhaglen gofal plant Plaid Cymru i arbed mwy na £30,000 i deuluoedd mewn costau fesul plentyn;

c) diwygio ardrethi busnes i gefnogi busnesau bach a chanolig domestig yn well; a

d) gweithio gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru i sicrhau bod cyfran uwch o gyfoeth asedau pensiwn Cymru yn cael ei chadw a'i hail-fuddsoddi yn ein cymunedau. 
Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3 Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn credu, bod economi Cymru, ar ôl bron i dri degawd o Lywodraethau Llafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, yn tanberfformio a bod angen dull cryf o gefnogi twf ar fusnesau a phobl sy'n gweithio.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chostau byw, rhoi hwb i economi Cymru, a rhoi pobl Cymru yn gyntaf trwy:

a) cyflwyno cynllun credadwy i leihau treth incwm un geiniog ar draws pob band;

b) dileu'r dreth dwristiaeth;

c) cyflwyno clo ar drethi er mwyn atal trethi neu ardollau newydd rhag cael eu creu gan Lywodraeth Cymru;

d) dileu sero net i roi terfyn ar gymorthdaliadau gwastraffus, a'i gwneud yn haws adeiladu seilwaith;

e) ei gwneud yn ofynnol i gynghorau gynnal refferenda ar gyfer codiadau'r dreth gyngor uwchlaw 4.99 y cant;

f) adfer y terfyn cyflymder diofyn o 30mya;

g) cyflawni ffordd liniaru'r M4;

h) cynnal adolygiad trylwyr o'r holl reoliadau i asesu a ydynt yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn addas i'r diben;

i) gweithredu lluosydd cyfraddau busnes is yn barhaol ar gyfer tafarndai, gwestai a lleoliadau lletygarwch; a

j) blaenoriaethu caffael gyda chwmnïau lleol.

Cyd-gyflwynwyr
James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

</AI16>

<AI17>

16    Cyfnod pleidleisio

(30 munud)

</AI17>

<AI18>

17    Dadl Fer

(30 munud)

NDM9190 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Darparu gofal iechyd yn deg ar draws pob rhan o Gymru.

</AI18>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Mawrth 2026

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>